Dyn y Tywydd
Neithiwr ar y teledu,
Roedd y dyn â'r map yn sôn
Am dywydd Cymru heddiw
O Fynwy i ben draw Môn.
Bydd hi'n braf bore fory
Ar hyd a lled Cymru.
Erbyn amser cinio
Bydd yr haul yn cilio.
Erbyn amser te
Bydd cymylau yn y De .
Ar ddiwedd y pnawn
Cawodydd a gawn
Gydar nos bydd taranau
Ar hyd y glannau.
Ond pan godais heddiw
Edrychais yn syn.
Roedd eira ym mhobman
Ar byd yn wyn
Un sy'n dweud celwydd
Yw dyn y tywydd.