Rwy’n mynd hyd y lonydd
Ar ras fel negesydd,
A’r troli fel mynydd,
O! siopa, siopa,
Rwy’n siopa bob wythnos
I’r teulu i gyd.
Rwy’n mynd i Tesco mawr y dre
Rwy’n cerdded mewn a dweud ‘Hwrê!’
Rwy’n gwthio troli rownd y lle
A gwario’r pres i gyd.
Mae’n rhaid cael sebon i lanhau,
A marmalêd a chnau,
Ac afalau – pwys neu ddau,
A chacen fawr i de!
Rhaid prynu jam a siwgwr gwyn,
A ffrwythau ffres nid ffrwythau tun,
Mae Mam yn blino erbyn hyn,
A minnau wrth fy modd!
Ac wrth y til mae losin du,
Y losin gorau, wir i chi,
A ydw i’n haeddu dau neu dri
Am wneud fy ngwaith mor dda?