Nos da leuad, nos da heulwen,
Nos da gwmwl, nos da seren,
Nos da ddewin chwedlau llawen,
Nos da T. Llew, nos da awen!
Mae’n gawr
Mae’n arwr
Ni welwn ei debyg
Un glew, T. Llew,
Brenin dychymyg.
Mae’n gawr
Mae’n arwr
Ni welwn ei debyg
Un glew, T. Llew,
Brenin dychymyg.
Cwtsio’n braf o dan y cwrlid,
Stori dda ddaw âbreuddwyd,
Breuddwyd ddaw â’r chwarae fory,
Chwarae ddaw â geiriau’r stori!
Geiriau dathlu, geiriau tirion,
Geiriau rhannu, geiriau’r galon,
Geiriau cariad, geiriau chwerthin,
Geiriau’n hiaith a geiriau perthyn!