Dost Ofnadw
Wy’n teimlo’n dost ofnadw,
Ma’ mheni’n troi fel top,
Ma’n stumog i’n gwasgu’n galed,
Ac ma’r sŵn yn ‘y nghlust yn ddi-stop.
Ma’n llygaid i’n rolio rownd a rownd,
Ma’n nhrwyn i’n trio yn llwyd,
Ma’ nghoese’n crynu fel deilen –
A plîs pidwch sôn am fwyd!
Ma’r gwely ‘ma’n boeth un funud,
A’r nesa mae’n troi yn oer,
Ma ‘ ‘nghalon i’n rhedeg fel injan dân
A ‘nannedd yn dripian poer.
Ond yna mi glywaf y ffôn lawr llawr
A llais fy mam o bell –
‘Ma’r arholiad wedi’i ganslo!’
HEI, MAM, WY’N TEIMLO’N WELL!
Dost Ofnadw
Wy’n teimlo’n dost ofnadw,
Ma’ mheni’n troi fel top,
Ma’n stumog i’n gwasgu’n galed,
Ac ma’r sŵn yn ‘y nghlust yn ddi-stop.
Ma’n llygaid i’n rolio rownd a rownd,
Ma’n nhrwyn i’n trio yn llwyd,
Ma’ nghoese’n crynu fel deilen –
A plîs pidwch sôn am fwyd!
Ma’r gwely ‘ma’n boeth un funud,
A’r nesa mae’n troi yn oer,
Ma ‘ ‘nghalon i’n rhedeg fel injan dân
A ‘nannedd yn dripian poer.
Ond yna mi glywaf y ffôn lawr llawr
A llais fy mam o bell –
‘Ma’r arholiad wedi’i ganslo!’
HEI, MAM, WY’N TEIMLO’N WELL!
Dewi Pws